Cymru Swyddfa

Mae economi Cymru wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r sector cyhoeddus yn parhau i chwarae rhan bwysig iawn gyda mwy o bwyslais ar ddarparu gwasanaethau o safon uchel sy'n canolbwyntio ar ddinasyddion.  Gwelwyd trawsnewid yn y sector preifat, o'i sylfaen ddiwydiannol draddodiadol i un a nodweddir gan dechnoleg a gwasanaethau ariannol a phroffesiynol.  Mae Cymru wedi croesawu mewnfuddsoddwyr pwysig o Ewrop, America a'r Dwyrain Pell mewn sectorau sy'n cynnwys electroneg, ynni gwyrdd a chynhyrchu.  Mae'r wlad hefyd yn dal i fanteisio ar ei hamgylchedd naturiol drwy ei diwydiannau twristiaeth a bwyd-amaeth sy'n tyfu.

Gwnaed llawer i adfywio ardaloedd ôl-ddiwydiant ac i hyrwyddo datblygiad economi sy'n seiliedig ar wybodaeth.  Mae hi'r un mor hawdd anghofio'r trawsffurfiad pwysig hwn yn yr hinsawdd economaidd gyfredol ag yw hi i anghofio'r camau enfawr ar ôl datganoli i hyrwyddo Cymru ar lefel Brydeinig, Ewropeaidd a rhyngwladol fel gwlad economaidd gyffrous a chanddi synnwyr cryf o hunaniaeth genedlaethol.  Mae hi'n bwysicach nag erioed o'r blaen fod Cymru yn harneisio'r dalent orau sydd ar gael yn lleol ond hefyd ledled y DU a thramor os yw am ffynnu yn y dyfodol.

Odgers Berndtson yw'r unig gwmni dibynadwy sy'n recriwtio uwch-weinyddwyr a chanddo dîm cynhwysfawr o Ymgynghorwyr, Ymchwilwyr a Staff Cefnogi wedi ei leoli yng Nghymru, ac sy'n cyfuno gwybodaeth a phrofiad helaeth o farchnad Cymru a'i hanghenion penodol.  Ni yw'r cwmni recriwtio Uwch-Weinyddwyr mwyaf yn y DU, yr ail fwyaf yn Ewrop a'r chweched yn rhyngwladol.

Yn achos pob aseiniad mae ein tîm Cymreig yn cydweithio'n agos â'n cymheiriaid cenedlaethol (200 Ymgynghorwr a 50 Ymchwilydd yn ein 8 swyddfa yn y DU) i sicrhau'r timau gorau a fydd yn cynnwys aelodau o Gymru, o'n sector tra arbenigol ac o'n hadrannau cenedlaethol gweithredol, i ddenu ymgeiswyr o'r radd flaenaf yn lleol a ledled y DU (neu'n rhyngwladol drwy ein swyddfeydd tramor) yn ôl yr angen.

Fel hyn rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chleientiaid i gyfrannu tuag at yr economi adfywiedig ac egnïol yng Nghymru."

Photo of Wales
Odgers Berndtson Cardiff office
work
13 Cathedral Road
Cardiff CF11 9HA United Kingdom
Geographical coordinates: 51° 29' 57'' N 3° 11' 24'' W
work +44 2920 783 050
work fax +44 2920 783 060
Odgers Berndtson

Download vCard

Find out more about our Wales office

Consultant Spotlight

Jemma Terry

Jemma Terry
Managing Partner, Wales Wales

Jemma is is the Managing Partner of the Wales Practice for Odgers Berndtson covering both the...

Read more

Simon Jones

Simon Jones
Head of Public Sector Wales

Simon started his career working for a news magazine in Wales before working as a Research Officer,...

Read more

Chris Jones

Chris Jones
Consultant Wales

Chris has been in senior level recruitment for 14 years. He works within the Commercial Interim...

Read more